9 Roedd wedi trefnu i ddechrau'r daith ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, ac wedi cyrraedd Jerwsalem ar ddiwrnod cynta'r pumed mis. Roedd Duw gydag e.
10 Roedd Esra yn ddyn oedd wedi rhoi ei fywyd i astudio cyfraith yr ARGLWYDD, i'w chadw, ac i ddysgu beth oedd ei gofynion i bobl Israel.
11 Dyma gopi o'r llythyr roddodd y Brenin Artaxerxes i Esra yr offeiriad oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith (sef gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ganllawiau i Israel):
12 “Artaxerxes, sy'n frenin ar frenhinoedd,At Esra yr offeiriad a'r arbenigwr yn y Gyfraith mae Duw y nefoedd wedi ei rhoi.Cyfarchion!
13 Rwyf wedi rhoi gorchymyn yn dweud fod unrhyw un o bobl Israel sy'n byw yn y deyrnas, ac eisiau mynd gyda ti i Jerwsalem i gael gwneud hynny – hyd yn oed offeiriaid a Lefiaid.
14 Mae'r brenin, a'i saith cynghorwr, yn dy awdurdodi di i gynnal ymchwiliad i weld os ydy cyfraith dy Dduw yn cael ei chadw.
15 Rwyt hefyd i fynd ag arian ac aur gyda ti. Mae'r brenin a'i gynghorwyr am roi offrwm gwirfoddol i Dduw Israel sy'n byw yn Jerwsalem.