21 Yna dyma fi'n galw ar bawb oedd yno, wrth Gamlas Ahafa, i ymprydio a plygu o flaen ein Duw, a gofyn iddo roi siwrnai saff i ni a'n plant a'n holl eiddo.
22 Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.”
23 Felly buon ni'n ymprydio a gweddïo'n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe'n ein hateb ni.
24 Yna dyma fi'n dewis un deg dau o arweinwyr yr offeiriaid, a hefyd Sherefeia, Chashafeia a deg o'u perthnasau.
25 Dyma fi'n pwyso'r arian, yr aur a'r llestri oedd i fynd i deml ein Duw a rhoi'r cwbl yn eu gofal nhw (sef y pethau roedd y brenin, ei gynghorwyr a'i swyddogion, a phawb o bobl Israel oedd yn Babilon, wedi ei gyfrannu):
26 22 tunnell o arianllestri arian oedd yn pwyso 3.4 tunnell3.4 tunnell o aur
27 20 powlen aur yn pwyso 8.4 cilogramdau lestr rhyfeddol o gain wedi eu gwneud o bres wedi ei loywi, mor werthfawr ag aur.