28 Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD, yn union fel mae'r llestri yma wedi eu cysegru. Offrwm gwirfoddol i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ydy'r arian a'r aur yma.
29 Dw i eisiau i chi ofalu amdano nes byddwch chi'n pwyso'r cwbl o flaen arweinwyr yr offeiriaid, y Lefiaid, a penaethiaid teuluoedd Israel, yn stordai teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.”
30 Felly dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cymryd gofal o'r arian, yr aur a'r llestri oedd wedi cael eu pwyso, i fynd â nhw i deml ein Duw yn Jerwsalem.
31 Dyma ni'n dechrau ar y daith o Gamlas Ahafa i Jerwsalem ar y deuddegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Roedd Duw gyda ni, a dyma fe'n ein hachub ni rhag ein gelynion a rhag lladron ar y daith.
32 Ar ôl cyrraedd Jerwsalem dyma ni'n gorffwys am dri diwrnod.
33 Yna'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd i'r deml i bwyso'r arian a'r aur a'r llestri, a rhoi'r cwbl yng ngofal Meremoth fab Wreia, yr offeiriad. Roedd Eleasar fab Phineas gydag e, a dau Lefiad, sef Iosafad fab Ieshŵa a Noadeia fab Binnŵi.
34 Cafodd popeth ei gyfri, ei bwyso a'i gofnodi yn y fan a'r lle.