1 Ar ôl hyn i gyd dyma'r penaethiaid yn dod ata i a dweud, “Mae pobl Israel a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn byw yr un fath â'r bobl baganaidd o'u cwmpas nhw. Maen nhw'n mynd trwy'r defodau ffiaidd roedd y Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid, pobl Ammon, Moab, yr Aifft, a'r Amoriaid yn eu gwneud.
2 Maen nhw hyd yn oed wedi priodi rhai o ferched y bobloedd yma, fel bod pobl sanctaidd Duw wedi cymysgu gyda'r bobl leol. Ac yn waeth na hynny, yr arweinwyr a'r swyddogion oedd y rhai cyntaf i fod yn anffyddlon!”
3 Pan glywais hyn dyma fi'n rhwygo fy nillad, tynnu gwallt fy mhen a'm barf ac eistedd ar lawr. Roeddwn i mewn sioc.
4 A dyma pawb oedd wir yn parchu beth roedd Duw Israel yn ei ddweud yn casglu o'm cwmpas i, am fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. Bues i'n eistedd yna nes oedd hi'n amser offrwm yr hwyr.
5 Pan ddaeth hi'n amser offrwm yr hwyr dyma fi'n codi, a'm dillad wedi eu rhwygo. Yna mynd ar fy ngliniau, dal fy nwylo ar led flaen yr ARGLWYDD fy Nuw,
6 a gweddïo,“O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu'n llwyr gan ein pechodau, ac mae'n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i'r nefoedd.
7 Dŷn ni wedi pechu o ddyddiau'n hynafiaid hyd heddiw. A dyna pam dŷn ni, a'n brenhinoedd a'n hoffeiriaid wedi cael ein cam-drin gan frenhinoedd gwledydd eraill – wedi colli brwydrau, cael ein cymryd yn gaethion, colli popeth a chael ein cywilyddio. A dyna sut mae hi arnon ni heddiw.