12 Felly peidiwch gadael i'ch plant briodi eu plant nhw. Peidiwch gwneud dim i'w helpu nhw i lwyddo a ffynnu. Wedyn byddwch chi'n gryf, ac yn mwynhau holl gynnyrch da'r tir, a byddwch yn gallu pasio'r cwbl ymlaen i'ch disgynyddion am byth.’
13 Mae'r cwbl sydd wedi digwydd i ni yn ganlyniad yr holl ddrwg dŷn ni wedi ei wneud. Ac eto, ein Duw, wnest ti mo'n cosbi ni gymaint ag oedden ni'n ei haeddu, gan dy fod wedi dod â rhai ohonon ni yn ôl.
14 Felly ydyn ni'n mynd i dorri dy orchmynion di eto, a cymysgu trwy briodas gyda'r bobl yma sy'n gwneud pethau mor ffiaidd? Fyddai hynny ddim yn gwneud i ti ddigio cymaint gyda ni nes ein difetha ni'n llwyr, a gadael neb ar ôl?
15 O ARGLWYDD, Duw Israel, rwyt ti'n gwneud beth sy'n iawn, a dyna pam mai criw bach ohonon ni sydd ar ôl heddiw. A dyma ni, yn sefyll o dy flaen di yn euog. Does gynnon ni ddim troed i sefyll arni.”