4 A dyma pawb oedd wir yn parchu beth roedd Duw Israel yn ei ddweud yn casglu o'm cwmpas i, am fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. Bues i'n eistedd yna nes oedd hi'n amser offrwm yr hwyr.
5 Pan ddaeth hi'n amser offrwm yr hwyr dyma fi'n codi, a'm dillad wedi eu rhwygo. Yna mynd ar fy ngliniau, dal fy nwylo ar led flaen yr ARGLWYDD fy Nuw,
6 a gweddïo,“O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu'n llwyr gan ein pechodau, ac mae'n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i'r nefoedd.
7 Dŷn ni wedi pechu o ddyddiau'n hynafiaid hyd heddiw. A dyna pam dŷn ni, a'n brenhinoedd a'n hoffeiriaid wedi cael ein cam-drin gan frenhinoedd gwledydd eraill – wedi colli brwydrau, cael ein cymryd yn gaethion, colli popeth a chael ein cywilyddio. A dyna sut mae hi arnon ni heddiw.
8 Ond nawr, yn ddiweddar, rwyt ti ARGLWYDD ein Duw wedi bod yn garedig wrthon ni. Ti wedi gadael i rai ohonon ni ddod yn ôl, ac wedi gadael i ni setlo i lawr yn dy ddinas sanctaidd. Ti wedi'n gwneud ni'n wirioneddol hapus, ac wedi'n rhyddhau ni o'n caethiwed.
9 Roedden ni'n gaeth, ond wnest ti ddim ein gadael ni'n gaeth. Ti wedi gwneud i frenhinoedd Persia fod yn garedig aton ni. Ti wedi rhoi bywyd newydd i ni, a chyfle i ailadeiladu teml ein Duw, a dod yn ôl i fyw yn saff yn Jwda a Jerwsalem.
10 Ond nawr, beth allwn ni ei ddweud, O Dduw? Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar beth roeddet ti'n ddweud