Esra 9:8-14 BNET

8 Ond nawr, yn ddiweddar, rwyt ti ARGLWYDD ein Duw wedi bod yn garedig wrthon ni. Ti wedi gadael i rai ohonon ni ddod yn ôl, ac wedi gadael i ni setlo i lawr yn dy ddinas sanctaidd. Ti wedi'n gwneud ni'n wirioneddol hapus, ac wedi'n rhyddhau ni o'n caethiwed.

9 Roedden ni'n gaeth, ond wnest ti ddim ein gadael ni'n gaeth. Ti wedi gwneud i frenhinoedd Persia fod yn garedig aton ni. Ti wedi rhoi bywyd newydd i ni, a chyfle i ailadeiladu teml ein Duw, a dod yn ôl i fyw yn saff yn Jwda a Jerwsalem.

10 Ond nawr, beth allwn ni ei ddweud, O Dduw? Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar beth roeddet ti'n ddweud

11 drwy dy weision y proffwydi. Roedden nhw wedi dweud wrthon ni: ‘Mae'r tir dych chi'n mynd iddo wedi ei lygru gan arferion drwg y bobl sy'n byw yno. Maen nhw wedi llenwi'r wlad gyda'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud.

12 Felly peidiwch gadael i'ch plant briodi eu plant nhw. Peidiwch gwneud dim i'w helpu nhw i lwyddo a ffynnu. Wedyn byddwch chi'n gryf, ac yn mwynhau holl gynnyrch da'r tir, a byddwch yn gallu pasio'r cwbl ymlaen i'ch disgynyddion am byth.’

13 Mae'r cwbl sydd wedi digwydd i ni yn ganlyniad yr holl ddrwg dŷn ni wedi ei wneud. Ac eto, ein Duw, wnest ti mo'n cosbi ni gymaint ag oedden ni'n ei haeddu, gan dy fod wedi dod â rhai ohonon ni yn ôl.

14 Felly ydyn ni'n mynd i dorri dy orchmynion di eto, a cymysgu trwy briodas gyda'r bobl yma sy'n gwneud pethau mor ffiaidd? Fyddai hynny ddim yn gwneud i ti ddigio cymaint gyda ni nes ein difetha ni'n llwyr, a gadael neb ar ôl?