1 Roedd hi'r cyfnod pan oedd Ahasferus yn frenin Persia (Dyma'r Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg saith o daleithiau o India i Affrica.)
2 Roedd yn teyrnasu o'r gaer ddinesig yn Shwshan.
3 Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma fe'n cynnal gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Roedd penaethiaid byddin Persia a Media yno, a llywodraethwyr y taleithiau, a phawb arall o bwys.
4 Roedd Ahasferus eisiau i bawb oedd yno wybod mor bwysig ac mor anhygoel gyfoethog oedd e, a'i weld yn ei holl ysblander brenhinol.Parodd y dathliadau am amser hir – chwe mis cyfan i fod yn fanwl gywir.
5 Yna ar ddiwedd y chwe mis dyma fe'n cynnal gwledd oedd yn para am wythnos. Roedd pawb oedd yn Shwshan ar y pryd yn cael mynd, o'r bobl fawr i'r bobl fwya cyffredin. Roedd y wledd yn cael ei chynnal yn yr iard yng ngerddi'r palas brenhinol.