17 Bydd gwragedd ym mhob man yn clywed am y peth a gwneud yr un fath, a dangos dim parch at eu gwŷr. Byddan nhw'n dweud, ‘Os ydy'r frenhines Fasti ddim yn ufuddhau i'w gŵr hi, y brenin Ahasferus, pam ddylen ni?’
18 Cyn diwedd y dydd bydd gwragedd uchel-swyddogion Persia a Media yn clywed beth wnaeth y frenhines, ac yn gwneud yr un fath i'w gwŷr! Fydd yna ddim diwedd ar y sarhau a'r ffraeo!
19 Os ydy'r brenin yn cytuno, dylai anfon allan ddatganiad brenhinol am y peth, a'i ysgrifennu yn llyfrau cyfraith Persia a Media, fel bod dim modd ei newid. Ddylai Fasti ddim cael gweld y brenin Ahasferus byth eto, a dylai'r brenin roi ei theitl i rywun arall fyddai'n frenhines well na hi.
20 Dylai dyfarniad y brenin gael ei gyhoeddi drwy'r deyrnas fawr yma'n gyfan. Wedyn bydd gwragedd yn parchu eu gwŷr, beth bynnag ydy eu safle cymdeithasol nhw.”
21 Roedd y brenin a'r swyddogion eraill yn hoffi awgrym Memwchan, felly dyna wnaeth e.
22 Anfonodd lythyrau allan i'r taleithiau i gyd. Roedd pob llythyr wedi ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd yn dweud fod pob dyn i reoli ei deulu ei hun, ac y dylid siarad ei famiaith e yn y cartref.