6 Roedd pobman wedi ei addurno gyda llenni o liain main gwyn a phorffor. Roedd cylchoedd arian yn dal y llenni ar gordyn wedi ei wneud o liain main a gwlân porffor, ac roedden nhw'n hongian rhwng colofnau marmor. Ac roedd soffas o aur ac arian ar balmant hardd oedd â phatrymau trwyddo o feini ffelsbar, marmor, mam y perl, a cherrig lliwgar eraill.
7 Roedd pobl yn yfed diodydd o gwpanau aur, ac roedd digonedd o'r gwin brenhinol gorau i bawb, a'r brenin yn talu am y cwbl.
8 Gallai pobl yfed faint fynnen nhw. Roedd y brenin wedi dweud wrth y wetars i gyd am roi i bawb faint bynnag oedden nhw eisiau.
9 Ar yr un pryd roedd y Frenhines Fasti yn cynnal gwledd i'r gwragedd i gyd ym mhalas y Brenin Ahasferus.
10 Ar ddiwrnod ola'r wledd roedd y gwin wedi mynd i ben y brenin, a dyma fe'n gorchymyn ei saith ystafellydd (sef Mehwman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar, a Carcas)
11 i ddod â'r frenhines Fasti o'i flaen, yn gwisgo ei choron frenhinol. Roedd y brenin eisiau i'w westeion a'i swyddogion weld mor hardd oedd hi – roedd hi'n wraig hynod o ddeniadol.
12 Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân – roedd yn gynddeiriog!