1 Beth amser wedyn pan oedd y Brenin Ahasferus wedi dod dros y cwbl, roedd yn meddwl am Fasti a beth wnaeth hi, ac am y gosb gafodd hi.
2 A dyma swyddogion y brenin yn dweud, “Dylid chwilio am ferched ifanc hardd i'ch mawrhydi.
3 Gellid penodi swyddogion drwy'r taleithiau i gyd i gasglu'r holl ferched ifanc hardd yn y deyrnas at ei gilydd i Shwshan. Wedyn gallai Hegai, yr eunuch sy'n gyfrifol am yr harîm, wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael triniaethau harddwch a coluron.
4 Ar ôl hynny gall y brenin ddewis y ferch sy'n ei blesio fwya i fod yn frenhines yn lle Fasti.” Roedd y brenin yn hoffi'r syniad, felly dyna wnaeth e.
5 Roedd yna Iddew o'r enw Mordecai yn byw yn Shwshan. Roedd yn perthyn i lwyth Benjamin, ac yn fab i Jair (mab Shimei ac ŵyr i Cish
6 oedd yn un o'r grŵp o bobl wnaeth Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu cymryd yn gaeth o Jerwsalem gyda Jehoiachin, brenin Jwda.)
7 Roedd Mordecai wedi magu ei gyfnither, Hadassa (sef Esther). Roedd ei thad a'i mam wedi marw, ac roedd Mordecai wedi ei mabwysiadu a'i magu fel petai'n ferch iddo fe ei hun. Roedd hi wedi tyfu'n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol.