16 Felly dyma Esther yn mynd at y Brenin Ahasferus yn ei balas, yn y degfed mis (sef Tebeth) o'i seithfed flwyddyn fel brenin.
17 Roedd y brenin yn hoffi Esther fwy na'r merched eraill i gyd. Syrthiodd mewn cariad gyda hi, a'i choroni yn frenhines yn lle Fasti.
18 A dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd – gwledd Esther. A dyma fe'n cyhoeddi gwyliau cyhoeddus drwy'r taleithiau i gyd, a rhannu rhoddion i bawb ar ei gost ei hun.
19 Pan oedd y merched ifanc yn cael eu galw at ei gilydd am yr ail waith, roedd Mordecai wedi ei benodi'n swyddog yn y llys brenhinol.
20 Doedd Esther yn dal ddim wedi dweud dim am ei theulu a'i chefndir, fel roedd Mordecai wedi ei chynghori. Roedd hi'n dal yn ufuddhau iddo, fel roedd hi wedi gwneud ers pan oedd e'n ei magu hi.
21 Bryd hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd yn y llys, roedd dau o weision y brenin, Bigthan a Teresh, oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, wedi gwylltio ac yn cynllwynio i ladd y brenin Ahasferus.
22 Pan glywodd Mordecai am y cynllwyn, dwedodd am y peth wrth y Frenhines Esther, ac aeth Esther i ddweud wrth y brenin ar ei ran.