20 Doedd Esther yn dal ddim wedi dweud dim am ei theulu a'i chefndir, fel roedd Mordecai wedi ei chynghori. Roedd hi'n dal yn ufuddhau iddo, fel roedd hi wedi gwneud ers pan oedd e'n ei magu hi.
21 Bryd hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd yn y llys, roedd dau o weision y brenin, Bigthan a Teresh, oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, wedi gwylltio ac yn cynllwynio i ladd y brenin Ahasferus.
22 Pan glywodd Mordecai am y cynllwyn, dwedodd am y peth wrth y Frenhines Esther, ac aeth Esther i ddweud wrth y brenin ar ei ran.
23 Dyma'r brenin yn cael ei swyddogion i ymchwilio i'r mater, a darganfod ei fod yn wir. Felly cafodd y ddau eu crogi. A dyma bopeth oedd wedi digwydd yn cael ei ysgrifennu o flaen y brenin yn sgrôl Cofnodion yr Ymerodraeth.