4 Ar ôl hynny gall y brenin ddewis y ferch sy'n ei blesio fwya i fod yn frenhines yn lle Fasti.” Roedd y brenin yn hoffi'r syniad, felly dyna wnaeth e.
5 Roedd yna Iddew o'r enw Mordecai yn byw yn Shwshan. Roedd yn perthyn i lwyth Benjamin, ac yn fab i Jair (mab Shimei ac ŵyr i Cish
6 oedd yn un o'r grŵp o bobl wnaeth Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu cymryd yn gaeth o Jerwsalem gyda Jehoiachin, brenin Jwda.)
7 Roedd Mordecai wedi magu ei gyfnither, Hadassa (sef Esther). Roedd ei thad a'i mam wedi marw, ac roedd Mordecai wedi ei mabwysiadu a'i magu fel petai'n ferch iddo fe ei hun. Roedd hi wedi tyfu'n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol.
8 Pan roddodd y brenin Ahasferus y gorchymyn i edrych am ferched hardd iddo, cafodd llawer iawn o ferched ifanc eu cymryd i gaer Shwshan, ac roedd Esther yn un ohonyn nhw. Cafodd hi a'r merched eraill eu cymryd i'r palas brenhinol, a'u rhoi dan ofal Hegai.
9 Gwnaeth Esther argraff ar Hegai o'r dechrau. Roedd e'n ei hoffi'n fawr, ac aeth ati ar unwaith i roi coluron iddi a bwyd arbennig, a rhoddodd saith morwyn wedi eu dewis o balas y brenin iddi. Yna rhoddodd yr ystafelloedd gorau yn llety'r harîm iddi hi a'i morynion.
10 Doedd Esther wedi dweud dim wrth neb am ei chefndir a'i theulu, am fod Mordecai wedi dweud wrthi am beidio.