1 Rywbryd wedyn, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi dyrchafiad i ddyn o'r enw Haman fab Hammedatha, oedd yn dod o dras Agag. Cafodd ei benodi i swydd uwch na'r swyddogion eraill i gyd.
2 Roedd y brenin wedi gorchymyn fod swyddogion eraill y llys brenhinol i fod i ymgrymu i Haman a dangos parch ato. Ond doedd Mordecai ddim am wneud hynny.
3 Dyma rai o swyddogion eraill y brenin yn gofyn i Mordecai pam oedd e'n gwrthod ufuddhau i orchymyn y brenin.
4 Er eu bod nhw wedi siarad gydag e am y peth dro ar ôl tro, doedd e ddim yn fodlon gwrando. Ond roedd e wedi esbonio iddyn nhw ei fod e'n Iddew. Felly dyma'r swyddogion yn mynd i siarad am y peth gyda Haman, i weld os byddai safiad Mordecai'n cael ei ganiatáu.