5 Pan glywodd Haman fod Mordecai'n gwrthod ymgrymu iddo a dangos parch ato, aeth yn lloerig.
6 Doedd delio gyda Mordecai ei hun ddim yn ddigon ganddo. Felly pan ddaeth i ddeall fod Mordecai yn Iddew, dyma Haman yn penderfynu lladd pob Iddew drwy deyrnas Ahasferus i gyd.
7 Yn y mis cyntaf (sef Nisan) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar).
8 Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn.
9 Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.”
10 Felly dyma'r brenin yn tynnu ei sêl-fodrwy a'i rhoi hi i Haman, oedd yn casáu'r Iddewon.
11 A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau gyda'r arian a'r bobl yna rwyt ti'n sôn amdanyn nhw.”