Esther 3:7-13 BNET

7 Yn y mis cyntaf (sef Nisan) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar).

8 Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn.

9 Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.”

10 Felly dyma'r brenin yn tynnu ei sêl-fodrwy a'i rhoi hi i Haman, oedd yn casáu'r Iddewon.

11 A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau gyda'r arian a'r bobl yna rwyt ti'n sôn amdanyn nhw.”

12 Felly ar y trydydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma bopeth wnaeth Haman ei orchymyn yn cael ei ysgrifennu mewn llythyrau at y rhaglawiaid a llywodraethwyr a swyddogion y taleithiau i gyd. Roedd llythyr pob talaith unigol yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd y llythyrau yn cael eu hanfon yn enw'r Brenin Ahasferus, ac wedi eu selio gyda'i sêl-fodrwy e.

13 Roedd negeswyr yn mynd â'r llythyrau i daleithiau'r deyrnas, yn gorchymyn dinistrio'r Iddewon yn llwyr, a'i lladd nhw i gyd – pobl ifanc a phobl mewn oed, gwragedd a phlant. Wedyn roedd eu heiddo i gyd i gael ei gymryd. Roedd hyn i ddigwydd ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef mis Adar).