Esther 3:9-15 BNET

9 Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.”

10 Felly dyma'r brenin yn tynnu ei sêl-fodrwy a'i rhoi hi i Haman, oedd yn casáu'r Iddewon.

11 A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau gyda'r arian a'r bobl yna rwyt ti'n sôn amdanyn nhw.”

12 Felly ar y trydydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma bopeth wnaeth Haman ei orchymyn yn cael ei ysgrifennu mewn llythyrau at y rhaglawiaid a llywodraethwyr a swyddogion y taleithiau i gyd. Roedd llythyr pob talaith unigol yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd y llythyrau yn cael eu hanfon yn enw'r Brenin Ahasferus, ac wedi eu selio gyda'i sêl-fodrwy e.

13 Roedd negeswyr yn mynd â'r llythyrau i daleithiau'r deyrnas, yn gorchymyn dinistrio'r Iddewon yn llwyr, a'i lladd nhw i gyd – pobl ifanc a phobl mewn oed, gwragedd a phlant. Wedyn roedd eu heiddo i gyd i gael ei gymryd. Roedd hyn i ddigwydd ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef mis Adar).

14 Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth, er mwyn paratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw.

15 Felly dyma'r negeswyr yn mynd allan ar frys ar orchymyn y brenin. Roedd y gorchymyn wedi ei gyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan.Tra roedd y brenin a Haman yn eistedd i lawr yn yfed gyda'i gilydd, roedd pobl y ddinas wedi drysu'n lân.