13 dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di'n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti'n byw yn y palas.
14 Os byddi di'n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a teulu dy dad yn marw. Falle mai dyma'n union pam rwyt ti wedi dod yn rhan o'r teulu brenhinol ar yr adeg yma!”
15 Yna dyma Esther yn anfon ateb yn ôl at Mordecai:
16 “Wnei di gasglu'r Iddewon sy'n byw yn Shwshan at ei gilydd a'i cael nhw i ymprydio drosta i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a'r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny'n golygu torri'r gyfraith. Dw i'n barod i farw os oes rhaid.”
17 Felly dyma Mordecai yn mynd ati i wneud popeth fel roedd Esther wedi dweud wrtho.