4 Dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, byddwn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod heddiw i wledd dw i wedi ei pharatoi.”
5 A dyma'r brenin yn gorchymyn, “Ewch i nôl Haman ar unwaith, i ni wneud beth mae Esther yn ei ofyn.” Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i'r wledd roedd Esther wedi ei pharatoi.
6 Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Be fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”
7 A dyma Esther yn ateb, “Dyma beth faswn i'n hoffi:
8 Os ydw i wedi plesio'r brenin a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, baswn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod eto fory i wledd arall dw i wedi ei pharatoi. Gwna i ddweud wrth y brenin beth dw i eisiau bryd hynny.”
9 Aeth Haman i ffwrdd y diwrnod hwnnw yn teimlo'n rêl boi. Ond yna dyma fe'n gweld Mordecai yn y llys brenhinol yn gwrthod codi iddo na dangos parch ato. Roedd Haman wedi gwylltio'n lân. Roedd e'n berwi!
10 Ond dyma fe'n llwyddo i reoli ei dymer, ac aeth yn ei flaen adre.Ar ôl cyrraedd adre dyma fe'n galw ei ffrindiau at ei gilydd, a'i wraig Seresh.