1 Y noson honno roedd y brenin yn methu cysgu. Felly dyma fe'n galw am y sgrôl oedd â hanes digwyddiadau pwysig yr Ymerodraeth ynddi, a cafodd ei darllen iddo.
2 A dyma nhw'n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh.
3 Dyma'r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.”
4 Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i'r neuadd frenhinol, i awgrymu i'r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei adeiladu iddo. A dyma'r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?”
5 “Haman sydd yna,” meddai'r gweision.A dyma'r brenin yn dweud, “Gadewch iddo ddod i mewn.”