2 A dyma nhw'n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh.
3 Dyma'r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.”
4 Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i'r neuadd frenhinol, i awgrymu i'r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei adeiladu iddo. A dyma'r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?”
5 “Haman sydd yna,” meddai'r gweision.A dyma'r brenin yn dweud, “Gadewch iddo ddod i mewn.”
6 Pan ddaeth Haman i mewn, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Beth ddylid ei wneud os ydy'r brenin wir eisiau anrhydeddu rhywun?” Roedd Haman yn meddwl mai fe oedd yr un oedd y brenin eisiau ei anrhydeddu,
7 felly dyma fe'n dweud, “Os ydy'r brenin am anrhydeddu rhywun,
8 dylai ei arwisgo gyda mantell frenhinol, a'i osod ar geffyl mae'r brenin ei hun wedi ei farchogaeth – un sy'n gwisgo arwyddlun y frenhiniaeth ar ei dalcen.