1 Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i wledda gyda'r Frenhines Esther
2 am yr ail waith. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”
3 A dyma Esther yn ateb, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, arbed fy mywyd i a'm pobl. Dyna dw i eisiau.
4 Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a'n dinistrio'n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu'n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni'r brenin amdano.”
5 A dyma'r Brenin Ahasferus yn gofyn i Esther, “Pwy sydd wedi gwneud hyn? Pwy fyddai'n meiddio gwneud y fath beth?”
6 A dyma Esther yn ateb, “Dyn drwg ydy e sy'n ein casáu ni! Dyma fe – Haman!”Roedd Haman wedi dychryn am ei fywyd o flaen y brenin a'r frenhines.
7 Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n codi o'r bwrdd a mynd allan i ardd y palas. Yna dyma Haman yn dechrau pledio ar y Frenhines Esther i arbed ei fywyd. Roedd yn gwybod y byddai'r brenin yn trefnu i'w ladd yn y ffordd fwya creulon.