1 Y diwrnod hwnnw, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi ystad Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther. Yna dyma Mordecai yn cael ei alw i sefyll o flaen y brenin (Roedd Esther wedi dweud wrth y brenin eu bod nhw'n perthyn.)
2 A dyma'r brenin yn cymryd ei sêl-fodrwy (sef yr un oedd Haman wedi bod yn ei gwisgo), a'i rhoi hi i Mordecai. Wedyn dyma Esther yn penodi Mordecai i redeg ystad Haman.
3 Dyma Esther yn mynd i siarad â'r brenin eto. Syrthiodd wrth ei draed yn crïo, a crefu am drugaredd. Roedd ganddi eisiau iddo wrthdroi cynllun drwg Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.
4 A dyma'r brenin yn estyn ei deyrnwialen aur ati. Cododd Esther ar ei thraed o'i flaen
5 a gofyn iddo, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, ac os ydy e'n gweld yn dda i fod yn garedig ata i a rhoi i mi beth dw i eisiau, wnaiff e orchymyn mewn ysgrifen fod bwriad drwg Haman fab Hammedatha, yr Agagiad, i ladd pob Iddew drwy'r taleithiau i gyd, yn cael ei ddiddymu?
6 Sut alla i eistedd yn ôl a gwylio'r fath drychineb yn digwydd i'm pobl, a'm teulu i gyd yn cael eu lladd?”
7 A dyma'r Brenin Ahasferus yn dweud wrth y Frenhines Esther ac wrth Mordecai, “Dw i wedi rhoi ystad Haman i Esther, ac wedi crogi Haman am ei fod wedi bwriadu ymosod ar yr Iddewon.