10 Roedd Mordecai yn ysgrifennu ar ran y Brenin Ahasferus, a cafodd y llythyrau eu selio gyda sêl-fodrwy y brenin. Yna dyma'r llythyrau yn cael eu dosbarthu gan negeswyr oedd yn marchogaeth y ceffylau cyflymaf yn y stablau brenhinol.
11 Rhoddodd y brenin ganiatád i'r Iddewon ddod at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Roedden nhw'n cael lladd a dinistrio milwyr unrhyw dalaith oedd yn ymosod arnyn nhw, lladd eu gwragedd a'u plant, a cymryd eu heiddo oddi arnyn nhw.
12 Roedd hyn i gyd i ddigwydd drwy bob talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, ar un diwrnod penodol, sef y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (Mis Adar).
13 Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth. Wedyn byddai'r Iddewon yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw, i ddial ar eu gelynion.
14 Dyma'r negeswyr yn rhuthro allan ar frys, ar gefn ceffylau o'r stablau brenhinol, a gorchymyn y brenin ganddyn nhw. Cafodd y gyfraith ei chyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan hefyd.
15 Pan aeth Mordecai allan oddi wrth y brenin, roedd wedi ei arwisgo mewn dillad brenhinol o borffor a gwyn. Roedd twrban euraid mawr ar ei ben, a mantell o liain main porffor ar ei ysgwyddau. Roedd pawb yn Shwshan yn dathlu,
16 ac roedd yr Iddewon wrth eu boddau ac yn cael eu parchu gan bawb.