3 Dyma Esther yn mynd i siarad â'r brenin eto. Syrthiodd wrth ei draed yn crïo, a crefu am drugaredd. Roedd ganddi eisiau iddo wrthdroi cynllun drwg Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.
4 A dyma'r brenin yn estyn ei deyrnwialen aur ati. Cododd Esther ar ei thraed o'i flaen
5 a gofyn iddo, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, ac os ydy e'n gweld yn dda i fod yn garedig ata i a rhoi i mi beth dw i eisiau, wnaiff e orchymyn mewn ysgrifen fod bwriad drwg Haman fab Hammedatha, yr Agagiad, i ladd pob Iddew drwy'r taleithiau i gyd, yn cael ei ddiddymu?
6 Sut alla i eistedd yn ôl a gwylio'r fath drychineb yn digwydd i'm pobl, a'm teulu i gyd yn cael eu lladd?”
7 A dyma'r Brenin Ahasferus yn dweud wrth y Frenhines Esther ac wrth Mordecai, “Dw i wedi rhoi ystad Haman i Esther, ac wedi crogi Haman am ei fod wedi bwriadu ymosod ar yr Iddewon.
8 A nawr cewch chi ysgrifennu ar fy rhan beth bynnag dych chi'n deimlo sy'n iawn i'w wneud gyda'r Iddewon, a selio'r ddogfen gyda fy sêl-fodrwy i. Mae'n amhosib newid deddf sydd wedi ei hysgrifennu yn enw'r brenin, ac wedi ei selio gyda'i sêl-fodrwy e.”
9 Felly ar y trydydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma nhw'n ysgrifennu popeth roedd Mordecai yn ei orchymyn – at yr Iddewon, ac at raglawiaid, llywodraethwyr a swyddogion pob talaith o India i Affrica (cant dau ddeg saith o daleithiau i gyd). Roedd llythyr pob talaith yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno, a'r llythyr at yr Iddewon yn eu hiaith nhw.