1 Roedd gorchymyn y brenin i gael ei weithredu ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef Mis Adar). Dyna'r diwrnod roedd gelynion yr Iddewon wedi tybio eu bod nhw'n mynd i gael eu trechu nhw. Ond y gwrthwyneb ddigwyddodd – cafodd yr Iddewon drechu eu gelynion.
2 Dyma'r Iddewon yn casglu at ei gilydd yn y trefi drwy'r holl daleithiau roedd y Brenin Ahasferus yn eu rheoli. Roedden nhw'n barod i ymosod ar unrhyw un oedd yn bwriadu gwneud drwg iddyn nhw. Ond roedd ofn yr Iddewon wedi gafael yn y bobl i gyd, a doedd neb yn gallu sefyll yn eu herbyn nhw.
3 Roedd swyddogion y taleithiau, y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr a pawb oedd yn gwasanaethu'r brenin, yn helpu'r Iddewon, am fod ganddyn nhw i gyd ofn Mordecai.
4 Roedd Mordecai yn ddyn pwysig iawn yn y palas, ac roedd pawb drwy'r taleithiau i gyd wedi clywed amdano wrth iddo fynd yn fwy a mwy dylanwadol.
5 Dyma'r Iddewon yn taro eu gelynion i gyd, eu lladd a'u dinistrio. Roedden nhw'n gwneud fel y mynnon nhw.
6 Cafodd pum cant o bobl eu lladd yn y gaer ddinesig yn Shwshan.