Esther 9:13-20 BNET

13 A dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, rho ganiatâd i'r Iddewon yn Shwshan wneud yr un peth yfory ag a wnaethon nhw heddiw; a gad i gyrff deg mab Haman gael eu hongian ar y crocbren.”

14 Felly dyma'r brenin yn gorchymyn i hynny gael ei wneud. Cafodd cyfraith ei phasio ar gyfer tref Shwshan, a cafodd cyrff meibion Haman eu hongian yn gyhoeddus.

15 Dyma'r Iddewon yn Shwshan yn casglu at ei gilydd ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, a dyma nhw'n lladd tri chant arall. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw.

16-17 Roedd gweddill Iddewon y taleithiau wedi dod at ei gilydd y diwrnod cynt i amddiffyn eu hunain, a cawson nhw lonydd gan eu gelynion. Roedden nhw wedi lladd saith deg pum mil o elynion i gyd, ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw. A'r diwrnod wedyn, ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, cawson nhw orffwys. Cafodd y diwrnod hwnnw ei wneud yn ddydd Gŵyl, i ddathlu a chynnal partïon.

18 Ond roedd Iddewon yn Shwshan wedi dod at ei gilydd i ymladd ar y trydydd ar ddeg a'r pedwerydd ar ddeg, felly dyma nhw'n gorffwys ar y pymthegfed, a gwneud hwnnw yn ddydd Gŵyl i ddathlu a chynnal partïon.

19 (A dyna pam mae'r Iddewon sy'n byw yng nghefn gwlad ac mewn pentrefi gwledig yn cadw'r pedwerydd ar ddeg o fis Adar fel diwrnod sbesial i fwynhau eu hunain a partïo, i gael gwyliau a rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd.)

20 Ysgrifennodd Mordecai hanes popeth oedd wedi digwydd. Wedyn anfonodd lythyrau at yr Iddewon ym mhobman, drwy'r holl daleithiau oedd o dan reolaeth y Brenin Ahasferus,