22 Ar y dyddiadau yna y cawson nhw lonydd gan eu gelynion – pan drodd eu trafferthion yn llawenydd a'u galar yn ddathlu. Roedden nhw i fod yn ddyddiau o bartïo a chael hwyl, rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd, a rhannu gyda phobl dlawd oedd mewn angen.
23 Felly dyma'r Iddewon yn ymrwymo i wneud yr un peth bob blwyddyn, a cadw'r Ŵyl fel roedd Mordecai wedi dweud yn ei lythyr.
24 Roedd gelyn pob Iddew, sef Haman fab Hammedatha o dras Agag, wedi cynllwynio yn erbyn yr Iddewon i'w lladd nhw. Roedd wedi mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis) gyda'r bwriad o'i dinistrio a'u lladd nhw.
25 Ond pan glywodd y brenin am y cynllwyn, dyma fe'n gorchymyn mewn ysgrifen fod y pethau drwg roedd Haman wedi eu bwriadu yn erbyn yr Iddewon i ddigwydd i Haman ei hun. A dyma fe a cyrff ei feibion yn cael eu crogi.
26 A'r rheswm pam mae'r Ŵyl yn cael ei galw yn Pwrim, ydy ar ôl y gair pŵr. O achos yr hyn oedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr, a'r cwbl roedden nhw wedi mynd trwyddo,
27 dyma'r Iddewon yn ymrwymo y bydden nhw a'u disgynyddion, a pawb arall oedd eisiau ymuno gyda nhw, yn cadw'r ddau ddiwrnod yma yn wyliau bob blwyddyn.
28 Roedd y dyddiau yma i'w cofio a'u dathlu bob blwyddyn gan bob teulu ym mhob cenhedlaeth drwy'r taleithiau a'r trefi i gyd. Roedd yr Iddewon i wneud yn siŵr eu bod nhw a'u disgynyddion yn cadw gwyliau'r Pwrim bob amser.