7 Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
8 ‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml;bydd hynny'n fy mhlesio,a bydd pobl yn fy mharchu,’ meddai'r ARGLWYDD.
9 ‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da,ond yn cael cnydau gwael.Roeddech chi'n ei gasglu,ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain!
10 Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith,a'r tir wedi peidio tyfu cnydau.
11 Fi sydd wedi anfon sychder drwy'r wlad –ar y bryniau,ar yr ŷd a'r grawnwin a'r olewydda phopeth arall sy'n tyfu o'r ddaear,ar bobl ac anifeiliaid,ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”
12 Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi ei anfon. Roedd y bobl yn parchu'r ARGLWYDD eto.
13 Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i'r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai'r ARGLWYDD.”