16 Pan oedd rhywun yn disgwyl dau ddeg mesur o ŷd, doedd ond deg yno; ac os oedd rhywun eisiau codi hanner can mesur o win o'r cafn, doedd ond dau ddeg yno.
17 Ro'n i'n eich cosbi chi drwy anfon gormod o wres, gormod o law neu genllysg ar eich cnydau, ond wnaethoch chi ddim troi ata i,’ meddai'r ARGLWYDD.
18 “‘Meddyliwch sut mae pethau wedi bod ers y diwrnod pan gafodd y sylfaeni eu gosod i ailadeiladu teml yr ARGLWYDD, ie, hyd heddiw (y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis):
19 Falle nad oes grawn yn yr ysgubor, ac nad ydy'r gwinwydd, y coed ffigys, y pomgranadau a'r coed olewydd wedi rhoi eu ffrwyth eto, ond o heddiw ymlaen dw i'n mynd i'ch bendithio chi.’”
20 A dyma Haggai yn cael ail neges gan yr ARGLWYDD ar y pedwerydd ar hugain o'r mis:
21 “Dywed hyn wrth Serwbabel, llywodraethwr Jwda: ‘Dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear.
22 Dw i'n mynd i chwalu gorseddau brenhinol a dinistrio grym llywodraethau'r gwledydd. Bydda i'n troi'r cerbydau rhyfel drosodd, gyda'i gyrrwyr. Bydd ceffylau rhyfel yn syrthio, a'u marchogion yn lladd ei gilydd.