3 ‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm, yn ei holl ysblander? A sut mae'n edrych i chi nawr? Dim byd o'i chymharu mae'n siŵr!
4 Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb’—meddai'r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
5 ‘Fel gwnes i addo i chi pan ddaethoch chi allan o wlad yr Aifft, mae fy Ysbryd yn dal gyda chi. Peidiwch bod ag ofn!’”
6 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r tir.
7 Bydda i'n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n dod ac yn cyflwyno eu trysorau, a bydda i'n llenwi'r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
8 ‘Fi piau'r arian, a fi piau'r aur,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
9 ‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o'r blaen,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus; ‘a bydda i'n dod â llwyddiant a heddwch i'r lle yma.’ Ydy, mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi dweud.”