7 Bydda i'n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n dod ac yn cyflwyno eu trysorau, a bydda i'n llenwi'r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
8 ‘Fi piau'r arian, a fi piau'r aur,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
9 ‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o'r blaen,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus; ‘a bydda i'n dod â llwyddiant a heddwch i'r lle yma.’ Ydy, mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi dweud.”
10 Ar y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, cafodd y proffwyd Haggai y neges yma gan yr ARGLWYDD:
11 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Gofynnwch i'r offeiriaid am arweiniad o'r Gyfraith:
12 ‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi ei aberthu wedi ei lapio yn ei fantell, a'r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu rhyw fwyd arall, fydd e'n gwneud y bwydydd hynny'n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.”
13 A dyma Haggai yn gofyn wedyn, “Os ydy rhywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw yn dod i gysylltiad â'r bwydydd hynny, fydd hynny'n gwneud y bwydydd yn aflan?” A dyma'r offeiriaid yn ateb, “Bydd.”