13 Ond yn lle gwneud hynny dyma'r morwyr yn ceisio rhwyfo'n galed i gyrraedd y tir. Ond methu wnaethon nhw; roedd y storm yn dal i fynd o ddrwg i waeth.
14 Felly dyma nhw'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O, plîs ARGLWYDD, paid gadael i ni farw o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e'n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.”
15 Yna dyma nhw'n gafael yn Jona a'i daflu i'r môr, a dyma'r storm yn tawelu.
16 Roedd hyn wedi gwneud i'r morwyr ofni'r ARGLWYDD go iawn, a dyma nhw'n addo ar lw y bydden nhw'n offrymu aberthau iddo.
17 A dyma'r ARGLWYDD yn anfon pysgodyn mawr i lyncu Jona. Roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.