5 Roedd criw y llong wedi dychryn am eu bywydau. Dyma pob un yn gweiddi ar ei dduw am help. A dyma nhw'n dechrau taflu'r cargo i'r môr, er mwyn gwneud y llong yn ysgafnach. Ond roedd Jona'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl! Roedd e wedi mynd i lawr i'r howld i orwedd i lawr, ac wedi syrthio i gysgu.
6 Dyma'r capten yn dod ar ei draws, a'i ddeffro. “Beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n wneud yn cysgu yma!” meddai. “Côd, a galw ar dy dduw! Falle y bydd e'n ein helpu ni, a'n cadw ni rhag boddi.”
7 Dyma griw'r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i'r duwiau ddangos i ni pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw'n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e.
8 Dyma nhw'n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae'r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti'n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti'n perthyn iddi?”
9 A dyma Jona'n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i'n addoli'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd. Fe ydy'r Duw sydd wedi creu y môr a'r tir.”
10 Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi'i wneud o'i le?” medden nhw. (Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw'n gynharach.)
11 Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma'r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu'r storm yma?”