5 Roeddwn i bron boddi –roedd y môr dwfn o'm cwmpas,a gwymon wedi lapio am fy mhen.
6 Roeddwn i wedi suddoat waelod isa'r mynyddoedd.Roedd giatiau Byd y Meirwwedi cloi tu ôl i mi am byth.Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw,yn fy achub i o'r Pwll dwfn.
7 Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd,dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD;a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddio dy deml sanctaidd.
8 Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerthyn troi cefn ar dy drugaredd di.
9 Ond dw i'n mynd i offrymu aberth i ti,a chanu mawl i ti'n gyhoeddus.Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo!Yr ARGLWYDD ydy'r un sy'n achub!
10 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.