6 Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o'i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw.
7-8 Wedyn dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn:Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith – gwartheg na defaid.)Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed rhoi sachliain ar yr anifeiliaid.Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.
9 Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a bydd dim rhaid i ni farw.”
10 Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw'n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.