1 Gweledigaeth Obadeia.Dyma beth mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi ei ddweud am Edom. Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”
2 Mae'r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom:“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben.
3 Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,ac mae dy gartre mor uchel nes dy fod yn meddwl,‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’
4 Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr,a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,bydda i'n dy dynnu di i lawr!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
5 “Petai lladron yn dod atat ti,neu ysbeilwyr yn y nos,bydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa?Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr!
6 Bydd pobl Esau yn colli popeth;bydd y trysorau gasglon nhw wedi eu dwyn!
7 Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;cei dy yrru at dy ffiniau.Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda tiwedi gosod trap heb i ti wybod.”