4 Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr,a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,bydda i'n dy dynnu di i lawr!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
5 “Petai lladron yn dod atat ti,neu ysbeilwyr yn y nos,bydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa?Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr!
6 Bydd pobl Esau yn colli popeth;bydd y trysorau gasglon nhw wedi eu dwyn!
7 Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;cei dy yrru at dy ffiniau.Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda tiwedi gosod trap heb i ti wybod.”
8 “Bryd hynny” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n difa rhai doeth Edom,a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.
9 Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman;fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau.O achos y lladdfa,
10 a'th drais yn erbyn Jacob dy frawd,bydd cywilydd yn dy orchuddio,a byddi'n cael dy ddinistrio am byth.