6 Bydd pobl Esau yn colli popeth;bydd y trysorau gasglon nhw wedi eu dwyn!
7 Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;cei dy yrru at dy ffiniau.Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda tiwedi gosod trap heb i ti wybod.”
8 “Bryd hynny” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n difa rhai doeth Edom,a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.
9 Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman;fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau.O achos y lladdfa,
10 a'th drais yn erbyn Jacob dy frawd,bydd cywilydd yn dy orchuddio,a byddi'n cael dy ddinistrio am byth.
11 Pan oeddet ti'n sefyll o'r neilltutra roedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo;pan oedd byddin estron yn mynd trwy ei giatiaua gamblo am gyfoeth Jerwsalem,doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw!
12 Sut allet ti syllu a mwynhau'rdrychineb ddaeth i ran dy frawd?Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwdaar ddiwrnod eu difa?Sut allet ti chwerthinar ddiwrnod y dioddef?