1 Yr un sydd wedi bodoli o'r dechrau cyntaf – dŷn ni wedi ei glywed e a'i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â'n llygaid ein hunain, a'i gyffwrdd â'n dwylo! Gair y bywyd!
2 Daeth y bywyd ei hun i'r golwg, a dŷn ni wedi ei weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni'n ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gyda'r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni.
3 Ydyn, dŷn ni'n sôn am rywbeth dŷn ni wedi ei weld a'i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi'r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda'i Fab, Iesu y Meseia.
4 Dŷn ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.
5 Dyma'r neges mae e wedi ei rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo.
6 Felly, os ydyn ni'n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto'n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae'n amlwg ein bod ni'n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i'r gwir.