7 Ond os ydyn ni'n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
8 Os ydyn ni'n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni'n twyllo'n hunain a dydy'r gwir ddim ynon ni.
9 Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e'n cadw ei air ac yn gwneud beth sy'n iawn.
10 Os ydyn ni'n honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn ni'n gwneud Duw yn gelwyddog, ac mae'n amlwg bod ei neges e'n cael dim lle yn ein bywydau ni.