16 Y cwbl mae'r byd yn ei gynnig ydy blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi ei gyflawni. O'r byd mae pethau felly'n dod, ddim oddi wrth y Tad.
17 Mae'r byd hwn a'i chwantau yn dod i ben, ond mae'r sawl sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.
18 Blant annwyl, mae'r awr olaf wedi dod. Dych chi wedi clywed fod gelyn y Meseia i ddod, ac mae llawer sy'n elynion i'r Meseia eisoes wedi dod. Dyna sut dŷn ni'n gwybod fod yr awr olaf wedi dod.
19 Mae'r bobl yma wedi mynd i ffwrdd oddi wrthon ni; doedden nhw ddim wir gyda ni yn y lle cyntaf! Petaen nhw gyda ni, bydden nhw wedi aros gyda ni. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi'n gadael ni yn dangos yn glir eu bod nhw ddim gyda ni o gwbl.
20 Ond dych chi'n wahanol – mae'r Un Sanctaidd wedi eich eneinio chi, a dych chi'n gwybod beth sy'n wir.
21 Dw i ddim yn ysgrifennu atoch chi am eich bod chi ddim yn gwybod beth sy'n wir, ond am eich bod chi yn gwybod, ac yn deall fod gan gelwydd ddim byd i'w wneud â'r gwir.
22 A pwy sy'n dweud celwydd? Dweda i wrthoch chi! – unrhyw un sy'n gwrthod y ffaith mai Iesu ydy'r Meseia. Gelynion y Meseia ydy pobl felly – pobl sy'n gwrthod y Tad yn ogystal â'r Mab!