19 Mae'r bobl yma wedi mynd i ffwrdd oddi wrthon ni; doedden nhw ddim wir gyda ni yn y lle cyntaf! Petaen nhw gyda ni, bydden nhw wedi aros gyda ni. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi'n gadael ni yn dangos yn glir eu bod nhw ddim gyda ni o gwbl.
20 Ond dych chi'n wahanol – mae'r Un Sanctaidd wedi eich eneinio chi, a dych chi'n gwybod beth sy'n wir.
21 Dw i ddim yn ysgrifennu atoch chi am eich bod chi ddim yn gwybod beth sy'n wir, ond am eich bod chi yn gwybod, ac yn deall fod gan gelwydd ddim byd i'w wneud â'r gwir.
22 A pwy sy'n dweud celwydd? Dweda i wrthoch chi! – unrhyw un sy'n gwrthod y ffaith mai Iesu ydy'r Meseia. Gelynion y Meseia ydy pobl felly – pobl sy'n gwrthod y Tad yn ogystal â'r Mab!
23 Os ydy rhywun yn gwrthod y Mab, dydy'r Tad ddim ganddo chwaith. Ond pwy bynnag sy'n derbyn y Mab, mae'r Tad ganddo hefyd.
24 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal i lynu wrth beth dych chi wedi ei glywed o'r dechrau cyntaf. Wedyn, bydd eich perthynas chi gyda'r Mab a'r Tad yn sicr.
25 A dyna'n union mae e wedi ei addo i ni! – bywyd tragwyddol!