2 Fe ydy'r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni, ac nid dim ond ein pechodau ni, ond pechodau'r byd i gyd.
3 Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n ei nabod e ac yn perthyn iddo – trwy fod yn ufudd iddo.
4 Mae'r bobl hynny sy'n dweud, “Dw i'n ei nabod e,” ond ddim yn gwneud beth mae e'n ei ddweud yn dweud celwydd, a dŷn nhw ddim yn ffyddlon i'r gwir.
5 Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw'n ddweud, mae'n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn iddo:
6 rhaid i bwy bynnag sy'n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu'n byw.
7 Ffrindiau annwyl, dw i ddim yn sôn am ryw orchymyn newydd. Mae'n hen un! Dyma gafodd ei ddweud o'r dechrau cyntaf. Dyma'r hen orchymyn glywoch chi o'r dechrau.
8 Ac eto mewn ffordd mae beth dw i'n ysgrifennu amdano yn newydd. Mae i'w weld ym mywyd Iesu Grist ac ynoch chithau hefyd. Achos mae'r tywyllwch yn diflannu ac mae'r golau go iawn wedi dechrau disgleirio.