25 A dyna'n union mae e wedi ei addo i ni! – bywyd tragwyddol!
26 Dw i'n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn i chi fod yn ymwybodol o'r bobl hynny sydd am eich camarwain chi.
27 Ond gan eich bod chi wedi cael eich eneinio – ac mae'r Ysbryd a'ch eneiniodd chi yn aros ynoch chi – does dim angen i neb eich dysgu chi. Mae'r Ysbryd yn dysgu popeth i chi. Mae ei eneiniad yn real. Does dim byd ffug ynglŷn â'r peth! Felly gwnewch beth mae'n ei ddweud – glynwch wrth Iesu.
28 Felly, blant annwyl, glynwch wrth Iesu. Wedyn, pan ddaw yn ôl i'r golwg gallwn fod yn gwbl hyderus, a heb ddim cywilydd.
29 Dych chi'n gwybod ei fod e'n hollol gyfiawn, felly dylech wybod hefyd fod pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn blant iddo.