19 Dim ond felly mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn i'r gwir. Dyna'r unig ffordd i gael tawelwch meddwl pan fyddwn ni'n sefyll o flaen Duw,
20 hyd yn oed os ydyn ni'n teimlo'n euog a'r gydwybod yn ein condemnio ni. Cofiwch, mae Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e'n gwybod am bob dim.
21 Ffrindiau annwyl, os ydy'r gydwybod yn glir gallwn sefyll yn hyderus o flaen Duw.
22 Gan ein bod yn ufudd iddo ac yn gwneud beth sy'n ei blesio, bydd yn rhoi i ni beth bynnag ofynnwn ni amdano.
23 A dyma ei orchymyn e: ein bod ni i gredu yn enw ei Fab, Iesu y Meseia, a charu'n gilydd yn union fel y dwedodd wrthon ni.
24 Mae'r rhai sy'n ufudd iddo yn byw ynddo, ac mae ei fywyd e ynddyn nhw. A dŷn ni'n gwybod fod ei fywyd e ynon ni am ei fod e wedi rhoi'r Ysbryd i ni.