7 Blant annwyl, peidiwch gadael i unrhyw un eich camarwain chi. Mae rhywun sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos ei fod yn gyfiawn, yn union fel y mae'r Meseia yn gyfiawn.
8 Mae'r rhai sy'n mynnu pechu yn dod o'r diafol. Dyna mae'r diafol wedi ei wneud o'r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i'r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol.
9 Dydy'r rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi ei blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dyn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni'n blant i Dduw.
10 Felly mae'n gwbl amlwg pwy sy'n blant i Dduw a phwy sy'n blant i'r diafol: Dydy'r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn ddim yn blant i Dduw – na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru'r brodyr a'r chwiorydd.
11 Dyma'r neges dych chi wedi ei chlywed o'r dechrau cyntaf: Fod yn rhaid i ni garu'n gilydd.
12 Rhaid i ni beidio bod fel Cain, oedd yn perthyn i'r un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham wnaeth e ladd ei frawd? Am fod Cain wedi gwneud drwg, a'i frawd wedi gwneud y peth iawn.
13 Felly, frodyr a chwiorydd, peidiwch synnu os ydy'r byd yn eich casáu chi!