18 Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni'n ofnus mae'n dangos ein bod ni'n disgwyl cael ein cosbi, a'n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu'n llwyr gan gariad Duw.
19 Dŷn ni'n caru'n gilydd am ei fod e wedi'n caru ni gyntaf.
20 Pwy bynnag sy'n dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, mae'n dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae'n ei weld, sut mae e'n gallu caru'r Duw dydy e erioed wedi ei weld?
21 Dyma'r gorchymyn mae Duw wedi ei roi i ni: Rhaid i'r sawl sy'n ei garu e, garu ei gyd-Gristnogion hefyd.