8 Os ydy'r cariad hwn ddim gan rywun, dydy'r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw.
9 Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i'r byd, er mwyn i ni gael bywyd trwyddo.
10 Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni'n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi'n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.
11 Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi'n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu'n gilydd.
12 Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni'n caru'n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni.
13 Dŷn ni'n gwybod ein bod ni'n byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni.
14 A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i achub y byd.